Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (259)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) |
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) |
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NNDM5715
Bethan Jenkins William Graham Lynne Neagle William Powell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr effeithir arnynt gan gloddio glo brig;
b) ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleodd glo brig yn ne Cymru, gan ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â phryderon ynghylch pa mor ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; ac
c) cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle bo angen, wrth geisio adfer safleoedd. |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu polisïau Llywodraeth y DU ers 2010 yn hanfodol yn y gwaith o adfer economïau'r DU a Chymru;
2. Yn cydnabod ymhellach fod economi gynyddol gryf y DU wedi tanategu twf yn y sector preifat a chreu dros 2 filiwn o swyddi; a
3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith mai economi'r DU yw'r economi sy'n tyfu'n gyflymaf o blith gwledydd y G7.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith bod treth incwm 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael ei dorri o £800, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU yn cynyddu'r trothwy lwfans personol.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid inni fantoli'r cyfrifon yn deg, gyda buddsoddiad mewn sgiliau uchel, economi carbon isel, dileu'r diffyg yn y gyllideb strwythurol erbyn 2017-18, sicrhau bod y bobl gyfoethocaf yn talu cyfran deg drwy gyflwyno treth plasty, ac amddiffyn y mwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas. |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5741 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i ddarparu addysg ôl-16;
2. Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i oedolion ar gyfer oedolion sydd am ddatblygu sgiliau newydd;
3. Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16 ar y sector addysg bellach; a
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael ei ymestyn i addysg bellach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ar ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:
'ac yn nodi'r gostyngiad o 47% yn nifer y bobl a gofrestrodd ar gyfer cyrsiau rhan-amser rhwng 2003 a 2013.'
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi pwysigrwydd y Gronfa Blaenoriaethau Sector i sefydliadau addysg bellach o ran datblygu sgiliau dysgwyr.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod llai o gyfleoedd prentisiaeth ar gael i feysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, sef dysgwyr 16 i 24 oed a phrentisiaethau uwch.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg brys Llywodraeth Cymru wrth roi gwybod i sefydliadau addysg bellach a fyddant yn derbyn eu dyraniad o'r Gronfa Blaenoriaethau Sector.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) dair gwaith cymaint â nifer y bobl NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant .
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a oedd yn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer 5,000 o brentisiaethau newydd a chynllun newydd sy'n darparu gofal plant ar gyfer rhieni mewn addysg bellach. |
7 Cyfnod pleidleisio |
Crynodeb o Bleidleisiau |
8 Dadl Fer (30 munud) NDM3740 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Gofal Iechyd yng nghanolbarth Cymru
Yr heriau sydd ynghlwm â darparu gofal iechyd yng nghefn gwlad canolbarth Cymru mewn cyd-destun trawsffiniol a materion sy'n ymwneud ag Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru. |
9 Dadl Fer - Tynnwyd yn ôl (0 munud) NDM5726 Leanne Wood (Canol De Cymru):
Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan
Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli i wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015